1 Brenhinoedd 2:19-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Felly Bathseba a aeth at y brenin Solomon, i ddywedyd wrtho ef dros Adoneia. A'r brenin a gododd i'w chyfarfod hi, ac a ostyngodd iddi, ac a eisteddodd ar ei orseddfainc, ac a barodd osod gorseddfainc i fam y brenin: a hi a eisteddodd ar ei ddeheulaw ef.

20. Yna hi a ddywedodd, Un dymuniad bychan yr ydwyf fi yn ei ddymuno gennyt; na omedd fi. A'r brenin a ddywedodd wrthi hi, Gofyn, fy mam: canys ni'th omeddaf.

21. A hi a ddywedodd, Rhodder Abisag y Sunamees yn wraig i Adoneia dy frawd.

22. A'r brenin Solomon a atebodd ac a ddywedodd wrth ei fam, Paham y ceisi di Abisag y Sunamees i Adoneia? gofyn hefyd y frenhiniaeth iddo ef; canys fy mrawd hŷn na mi ydyw efe; a chydag ef y mae Abiathar yr offeiriad, a Joab mab Serfia.

23. A'r brenin Solomon a dyngodd i'r Arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid yn erbyn ei einioes y llefarodd Adoneia y gair hwn.

24. Yn awr gan hynny, fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a'm sicrhaodd i, ac a wnaeth i mi eistedd ar orseddfainc Dafydd fy nhad, yr hwn hefyd a wnaeth i mi dŷ, megis y dywedasai efe: heddiw yn ddiau y rhoddir Adoneia i farwolaeth.

25. A'r brenin Solomon a anfonodd gyda Benaia mab Jehoiada; ac efe a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw.

26. Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywedodd y brenin, Dos i Anathoth, i'th fro dy hun; canys gŵr yn haeddu marwolaeth ydwyt ti: ond ni laddaf di y pryd hwn; oherwydd dwyn ohonot arch yr Arglwydd Dduw o flaen fy nhad Dafydd, ac am dy gystuddio yn yr hyn oll y cystuddiwyd fy nhad.

1 Brenhinoedd 2