1. Ac Ahab a fynegodd i Jesebel yr hyn oll a wnaethai Eleias; a chyda phob peth, y modd y lladdasai efe yr holl broffwydi รข'r cleddyf.
2. Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo y duwiau, ac fel hyn y chwanegont, oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy.
3. A phan welodd efe hynny, efe a gyfododd, ac a aeth am ei einioes, ac a ddaeth i Beerseba, yr hon sydd yn Jwda, ac a adawodd ei lanc yno.