9. Dywedodd yntau, Pa bechod a wneuthum i, pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i'm lladd?
10. Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i'th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y frenhiniaeth a'r genedl, na chawsent dydi.
11. Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd, Dos, dywed i'th arglwydd, Wele Eleias.
12. A phan elwyf fi oddi wrthyt ti, ysbryd yr Arglwydd a'th gymer di lle nis gwn i; a phan ddelwyf i fynegi i Ahab, ac yntau heb dy gael di, efe a'm lladd i: ond y mae dy was di yn ofni yr Arglwydd o'm mebyd.
13. Oni fynegwyd i'm harglwydd yr hyn a wneuthum i, pan laddodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd, fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr Arglwydd, bob yn ddengwr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt â bara ac â dwfr?
14. Ac yn awr ti a ddywedi, Dos, dywed i'th arglwydd, Wele Eleias: ac efe a'm lladd i.
15. A dywedodd Eleias, Fel mai byw Arglwydd y lluoedd, yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron, heddiw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef.
16. Yna Obadeia a aeth i gyfarfod Ahab, ac a fynegodd iddo. Ac Ahab a aeth i gyfarfod Eleias.
17. A phan welodd Ahab Eleias, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel?
18. Ac efe a ddywedodd, Ni flinais i Israel; ond tydi, a thŷ dy dad: am i chwi wrthod gorchmynion yr Arglwydd, ac i ti rodio ar ôl Baalim.
19. Yn awr gan hynny anfon, a chasgl ataf holl Israel i fynydd Carmel, a phroffwydi Baal, pedwar cant a deg a deugain, a phroffwydi y llwyni, pedwar cant, y rhai sydd yn bwyta ar fwrdd Jesebel.