34. Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith.
35. A'r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr.
36. A phan offrymid yr hwyr‐offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn.
37. Gwrando fi, O Arglwydd, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr Arglwydd Dduw, ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn.
38. Yna tân yr Arglwydd a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a'r coed, a'r cerrig, a'r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffos.
39. A'r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr Arglwydd, efe sydd Dduw, yr Arglwydd, efe sydd Dduw.
40. Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy, Deliwch broffwydi Baal; na ddihanged gŵr ohonynt. A hwy a'u daliasant: ac Eleias a'u dygodd hwynt i waered i afon Cison, ac a'u lladdodd hwynt yno.
41. Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab, Dos i fyny, bwyta ac yf; canys wele drwst llawer o law.
42. Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed. Ac Eleias a aeth i fyny i ben Carmel; ac a ymostyngodd ar y ddaear, ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau;
43. Ac a ddywedodd wrth ei lanc, Dos i fyny yn awr, edrych tua'r môr. Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd, ac a ddywedodd, Nid oes dim. Dywedodd yntau, Dos eto saith waith.
44. A'r seithfed waith y dywedodd efe, Wele gwmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn dyrchafu o'r môr. A dywedodd yntau, Dos i fyny, dywed wrth Ahab, Rhwym dy gerbyd, a dos i waered, fel na'th rwystro y glaw.
45. Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dduodd gan gymylau a gwynt; a bu glaw mawr. Ac Ahab a farchogodd, ac a aeth i Jesreel.