1 Brenhinoedd 18:26-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a'i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o'r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni; ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid.

27. A bu, ar hanner dydd, i Eleias eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch â llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef.

28. A hwy a waeddasant â llef uchel, ac a'u torasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll ac ag ellynod, nes i'r gwaed ffrydio arnynt.

29. Ac wedi iddi fyned dros hanner dydd, a phroffwydo ohonynt nes offrymu yr hwyr‐offrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried.

30. A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A'r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, yr hon a ddrylliasid.

31. Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw di.

32. Ac efe a adeiladodd â'r meini allor yn enw yr Arglwydd; ac a wnaeth ffos o gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor.

33. Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a'i gosododd ar y coed;

34. Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith.

35. A'r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr.

36. A phan offrymid yr hwyr‐offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn.

1 Brenhinoedd 18