1 Brenhinoedd 18:2-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab. A'r newyn oedd dost yn Samaria.

3. Ac Ahab a alwodd Obadeia, yr hwn oedd benteulu iddo: (ac Obadeia oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr:

4. Canys pan ddistrywiodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd, Obadeia a gymerodd gant o broffwydi, ac a'u cuddiodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a'u porthodd hwynt â bara ac â dwfr.)

5. Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia, Dos i'r wlad, at bob ffynnon ddwfr, ac at yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y ceffylau a'r mulod, fel na adawom i'r holl anifeiliaid golli.

6. Felly hwy a ranasant y wlad rhyngddynt i'w cherdded: Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan, ac Obadeia a aeth y ffordd arall ei hunan.

7. Ac fel yr oedd Obadeia ar y ffordd, wele Eleias yn ei gyfarfod ef: ac efe a'i hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, Onid ti yw fy arglwydd Eleias?

8. Yntau a ddywedodd wrtho, Ie, myfi: dos, dywed i'th arglwydd, Wele Eleias.

9. Dywedodd yntau, Pa bechod a wneuthum i, pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i'm lladd?

10. Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i'th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y frenhiniaeth a'r genedl, na chawsent dydi.

11. Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd, Dos, dywed i'th arglwydd, Wele Eleias.

12. A phan elwyf fi oddi wrthyt ti, ysbryd yr Arglwydd a'th gymer di lle nis gwn i; a phan ddelwyf i fynegi i Ahab, ac yntau heb dy gael di, efe a'm lladd i: ond y mae dy was di yn ofni yr Arglwydd o'm mebyd.

13. Oni fynegwyd i'm harglwydd yr hyn a wneuthum i, pan laddodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd, fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr Arglwydd, bob yn ddengwr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt â bara ac â dwfr?

14. Ac yn awr ti a ddywedi, Dos, dywed i'th arglwydd, Wele Eleias: ac efe a'm lladd i.

1 Brenhinoedd 18