1 Brenhinoedd 17:17-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Ac wedi y pethau hyn y clafychodd mab gwraig y tŷ, ac yr oedd ei glefyd ef mor gryf, fel na thrigodd anadl ynddo.

18. A hi a ddywedodd wrth Eleias, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, gŵr Duw? a ddaethost ti ataf i goffáu fy anwiredd, ac i ladd fy mab?

19. Ac efe a ddywedodd wrthi, Moes i mi dy fab. Ac efe a'i cymerth ef o'i mynwes hi, ac a'i dug ef i fyny i ystafell yr oedd efe yn aros ynddi, ac a'i gosododd ef ar ei wely ei hun.

20. Ac efe a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd fy Nuw, a ddrygaist ti y wraig weddw yr ydwyf fi yn ymdeithio gyda hi, gan ladd ei mab hi?

21. Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, ac a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd fy Nuw, dychweled, atolwg, enaid y bachgen hwn iddo eilwaith.

22. A'r Arglwydd a wrandawodd ar lef Eleias; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo, ac efe a ddadebrodd.

1 Brenhinoedd 17