1 Brenhinoedd 16:23-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Omri ar Israel ddeuddeng mlynedd: yn Tirsa y teyrnasodd efe chwe blynedd.

24. Ac efe a brynodd fynydd Samaria gan Semer, er dwy dalent o arian; ac a adeiladodd yn y mynydd, ac a alwodd enw y ddinas a adeiladasai efe, ar ôl enw Semer, arglwydd y mynydd, Samaria.

25. Ond Omri a wnaeth ddrygioni yng ngŵydd yr Arglwydd, ac a wnaeth yn waeth na'r holl rai a fuasai o'i flaen ef.

26. Canys efe a rodiodd yn holl ffordd Jeroboam mab Nebat, ac yn ei bechod ef, trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu, gan ddigio Arglwydd Dduw Israel â'u gwagedd hwynt.

27. A'r rhan arall o hanes Omri, yr hyn a wnaeth efe, a'i rymuster a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

28. Ac Omri a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

29. Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asa brenin Jwda: ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar hugain.

30. Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd y tu hwnt i bawb o'i flaen ef.

31. Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac a aeth ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo.

32. Ac efe a gyfododd allor i Baal yn nhŷ Baal, yr hwn a adeiladasai efe yn Samaria.

33. Ac Ahab a wnaeth lwyn. Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio Arglwydd Dduw Israel na holl frenhinoedd Israel a fuasai o'i flaen ef.

34. Yn ei ddyddiau ef Hïel y Betheliad a adeiladodd Jericho: yn Abiram ei gyntaf‐anedig y sylfaenodd efe hi, ac yn Segub ei fab ieuangaf y gosododd efe ei phyrth hi, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law Josua mab Nun.

1 Brenhinoedd 16