1 Brenhinoedd 16:10-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A Simri a aeth ac a'i trawodd ef, ac a'i lladdodd, yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef.

11. A phan ddechreuodd efe deyrnasu, ac eistedd ar ei deyrngadair, efe a laddodd holl dŷ Baasa: ni adawodd efe iddo ef un gwryw, na'i geraint, na'i gyfeillion.

12. Felly Simri a ddinistriodd holl dŷ Baasa, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd efe yn erbyn Baasa trwy law Jehu y proffwyd.

1 Brenhinoedd 16