1. Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jehu mab Hanani yn erbyn Baasa, gan ddywedyd,
2. Oherwydd i mi dy ddyrchafu o'r llwch, a'th wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel, a rhodio ohonot tithau yn ffordd Jeroboam, a pheri i'm pobl Israel bechu, gan fy nigio â'u pechodau;
3. Wele fi yn torri ymaith hiliogaeth Baasa, a hiliogaeth ei dŷ ef: a mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat.
4. Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo marw o'r eiddo Baasa yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo marw o'r eiddo ef yn y maes.
5. A'r rhan arall o hanes Baasa, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'i gadernid ef, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
6. A Baasa a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yn Tirsa; ac Ela ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
7. Hefyd trwy law Jehu mab Hanani y proffwyd y bu gair yr Arglwydd yn erbyn Baasa, ac yn erbyn ei dŷ ef, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yng ngolwg yr Arglwydd, gan ei ddigio ef trwy waith ei ddwylo; gan fod fel tŷ Jeroboam, ac oblegid iddo ei ladd ef.
8. Yn y chweched flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Ela mab Baasa ar Israel yn Tirsa, ddwy flynedd.