1 Brenhinoedd 15:31-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. A'r rhan arall o hanes Nadab, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

32. A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt.

33. Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahïa ar holl Israel yn Tirsa, bedair blynedd ar hugain.

34. Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

1 Brenhinoedd 15