1 Brenhinoedd 15:18-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Yna Asa a gymerodd yr holl arian a'r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac efe a'u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision: a'r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab Tabrimon, mab Hesion, brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd,

19. Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, rhwng fy nhad i a'th dad di: wele, mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur; tyred, diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi.

20. Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Ijon, a Dan, ac Abel‐beth‐maacha, a holl Cinneroth, gyda holl wlad Nafftali.

21. A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama; ac a drigodd yn Tirsa.

22. Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant gerrig Rama, a'i choed, â'r rhai yr adeiladasai Baasa; a'r brenin Asa a adeiladodd â hwynt Geba Benjamin, a Mispa.

23. A'r rhan arall o holl hanes Asa, a'i holl gadernid ef, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'r dinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o'i draed.

24. Ac Asa a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

25. A Nadab mab Jeroboam a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd.

26. Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ei bechod ef â'r hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

27. A Baasa mab Ahïa, o dŷ Issachar, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a Baasa a'i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon.

1 Brenhinoedd 15