1 Brenhinoedd 15:11-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad.

12. Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o'r wlad, ac a fwriodd ymaith yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau.

13. Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a'i llosgodd wrth afon Cidron.

14. Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd: eto calon Asa oedd berffaith gyda'r Arglwydd ei holl ddyddiau ef.

15. Ac efe a ddug i mewn gysegredig bethau ei dad, a'r pethau a gysegrasai efe ei hun, i dŷ yr Arglwydd, yn arian, yn aur, ac yn llestri.

16. A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt.

17. A Baasa brenin Israel a aeth i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama; fel na adawai efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda.

18. Yna Asa a gymerodd yr holl arian a'r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac efe a'u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision: a'r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab Tabrimon, mab Hesion, brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd,

19. Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, rhwng fy nhad i a'th dad di: wele, mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur; tyred, diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi.

20. Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Ijon, a Dan, ac Abel‐beth‐maacha, a holl Cinneroth, gyda holl wlad Nafftali.

21. A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama; ac a drigodd yn Tirsa.

22. Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant gerrig Rama, a'i choed, â'r rhai yr adeiladasai Baasa; a'r brenin Asa a adeiladodd â hwynt Geba Benjamin, a Mispa.

1 Brenhinoedd 15