7. Dos, dywed wrth Jeroboam, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Yn gymaint â darfod i mi dy ddyrchafu di o blith y bobl, a'th wneuthur di yn flaenor ar fy mhobl Israel,
8. A thorri ymaith y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Dafydd, a'i rhoddi i ti; ac na buost ti fel fy ngwas Dafydd, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion, a'r hwn a rodiodd ar fy ôl i â'i holl galon, i wneuthur yn unig yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i;
9. Ond a wnaethost ddrwg y tu hwnt i bawb a fu o'th flaen di; ac a aethost ac a wnaethost i ti dduwiau dieithr, a delwau toddedig, i'm digio i, ac a'm teflaist i o'r tu ôl i'th gefn:
10. Am hynny, wele fi yn dwyn drwg ar dŷ Jeroboam; a thorraf ymaith oddi wrth Jeroboam bob gwryw, y gwarchaeëdig a'r gweddilledig yn Israel; a mi a fwriaf allan weddillion tŷ Jeroboam, fel y bwrir allan dom, nes ei ddarfod.
11. Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo farw o eiddo Jeroboam yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo farw yn y maes: canys yr Arglwydd a'i dywedodd.
12. Cyfod di gan hynny, dos i'th dŷ: a phan ddelo dy draed i'r ddinas, bydd marw y bachgen.
13. A holl Israel a alarant amdano ef, ac a'i claddant ef: canys efe yn unig o Jeroboam a ddaw i'r bedd; oherwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel, yn nhŷ Jeroboam.