6. A'r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr Duw, Gweddïa, atolwg, gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ac ymbil drosof fi, fel yr adferer fy llaw i mi. A gŵr Duw a weddïodd gerbron yr Arglwydd; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef, ac a fu fel cynt.
7. A'r brenin a ddywedodd wrth ŵr Duw, Tyred adref gyda mi, a chymer luniaeth, a mi a roddaf rodd i ti.
8. A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin, Pe rhoddit i mi hanner dy dŷ, ni ddeuwn i gyda thi; ac ni fwytawn fara, ac nid yfwn ddwfr, yn y fan hon:
9. Canys fel hyn y gorchmynnwyd i mi trwy air yr Arglwydd, gan ddywedyd, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; na ddychwel chwaith ar hyd y ffordd y daethost.
10. Felly efe a aeth ymaith ar hyd ffordd arall, ac ni ddychwelodd ar hyd y ffordd y daethai ar hyd‐ddi i Bethel.
11. Ac yr oedd rhyw hen broffwyd yn trigo yn Bethel; a'i fab a ddaeth ac a fynegodd iddo yr holl waith a wnaethai gŵr Duw y dydd hwnnw yn Bethel: a hwy a fynegasant i'w tad y geiriau a lefarasai efe wrth y brenin.
12. A'u tad a ddywedodd wrthynt, Pa ffordd yr aeth efe? A'i feibion a welsent y ffordd yr aethai gŵr Duw, yr hwn a ddaethai o Jwda.
13. Ac efe a ddywedodd wrth ei feibion, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a gyfrwyasant iddo yr asyn; ac efe a farchogodd arno.
14. Ac efe a aeth ar ôl gŵr Duw, ac a'i cafodd ef yn eistedd dan dderwen; ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw gŵr Duw, yr hwn a ddaethost o Jwda? Ac efe a ddywedodd, Ie, myfi.
15. Yna efe a ddywedodd wrtho, Tyred adref gyda mi, a bwyta fara.
16. Yntau a ddywedodd, Ni allaf ddychwelyd gyda thi, na dyfod gyda thi; ac ni fwytâf fara, ac nid yfaf ddwfr gyda thi yn y fan hon.
17. Canys dywedwyd wrthyf trwy ymadrodd yr Arglwydd, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr yno; ac na ddychwel gan fyned trwy y ffordd y daethost ar hyd‐ddi.
18. Dywedodd yntau wrtho, Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau; ac angel a lefarodd wrthyf trwy air yr Arglwydd, gan ddywedyd, Dychwel ef gyda thi i'th dŷ, fel y bwytao fara, ac yr yfo ddwfr. Ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho.
19. Felly efe a ddychwelodd gydag ef, ac a fwytaodd fara yn ei dŷ ef, ac a yfodd ddwfr.
20. A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr Arglwydd at y proffwyd a barasai iddo ddychwelyd:
21. Ac efe a lefodd ar ŵr Duw yr hwn a ddaethai o Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd i ti anufuddhau i air yr Arglwydd, ac na chedwaist y gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti,
22. Eithr dychwelaist, a bwyteaist fara, ac yfaist ddwfr, yn y lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; nid â dy gelain di i feddrod dy dadau.