1 Brenhinoedd 13:33-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o'i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i'r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a'i cysegrai ef, ac efe a gâi fod yn offeiriad i'r uchelfeydd.

34. A'r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam, i'w ddiwreiddio hefyd, ac i'w ddileu oddi ar wyneb y ddaear.

1 Brenhinoedd 13