1 Brenhinoedd 13:18-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Dywedodd yntau wrtho, Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau; ac angel a lefarodd wrthyf trwy air yr Arglwydd, gan ddywedyd, Dychwel ef gyda thi i'th dŷ, fel y bwytao fara, ac yr yfo ddwfr. Ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho.

19. Felly efe a ddychwelodd gydag ef, ac a fwytaodd fara yn ei dŷ ef, ac a yfodd ddwfr.

20. A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr Arglwydd at y proffwyd a barasai iddo ddychwelyd:

21. Ac efe a lefodd ar ŵr Duw yr hwn a ddaethai o Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd i ti anufuddhau i air yr Arglwydd, ac na chedwaist y gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti,

22. Eithr dychwelaist, a bwyteaist fara, ac yfaist ddwfr, yn y lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; nid â dy gelain di i feddrod dy dadau.

23. Ac wedi iddo fwyta bara, ac wedi iddo yfed, efe a gyfrwyodd iddo yr asyn, sef i'r proffwyd a barasai efe iddo ddychwelyd.

24. Ac wedi iddo fyned ymaith, llew a'i cyfarfu ef ar y ffordd, ac a'i lladdodd ef: a bu ei gelain ef wedi ei bwrw ar y ffordd, a'r asyn oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, a'r llew yn sefyll wrth y gelain.

25. Ac wele wŷr yn myned heibio, ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar y ffordd, a'r llew yn sefyll wrth y gelain: a hwy a ddaethant ac a adroddasant hynny yn y ddinas yr oedd yr hen broffwyd yn aros ynddi.

26. A phan glybu y proffwyd, yr hwn a barasai iddo ef ddychwelyd o'r ffordd, efe a ddywedodd, Gŵr Duw yw efe, yr hwn a anufuddhaodd air yr Arglwydd: am hynny yr Arglwydd a'i rhoddodd ef i'r llew, yr hwn a'i drylliodd ef, ac a'i lladdodd ef, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd efe wrtho ef.

27. Ac efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a'i cyfrwyasant.

28. Ac efe a aeth, ac a gafodd ei gelain ef wedi ei thaflu ar y ffordd, a'r asyn a'r llew yn sefyll wrth y gelain: ac ni fwytasai y llew y gelain, ac ni ddrylliasai efe yr asyn.

29. A'r proffwyd a gymerth gelain gŵr Duw, ac a'i gosododd hi ar yr asyn, ac a'i dug yn ei hôl. A'r hen broffwyd a ddaeth i'r ddinas, i alaru, ac i'w gladdu ef.

30. Ac efe a osododd ei gelain ef yn ei feddrod ei hun; a hwy a alarasant amdano ef, gan ddywedyd, O fy mrawd!

31. Ac wedi iddo ei gladdu ef, efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Pan fyddwyf farw, cleddwch finnau hefyd yn y bedd y claddwyd gŵr Duw ynddo; gosodwch fy esgyrn i wrth ei esgyrn ef.

32. Canys diamau y bydd yr hyn a lefodd efe trwy air yr Arglwydd yn erbyn yr allor sydd yn Bethel, ac yn erbyn holl dai yr uchelfeydd sydd yn ninasoedd Samaria.

33. Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o'i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i'r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a'i cysegrai ef, ac efe a gâi fod yn offeiriad i'r uchelfeydd.

34. A'r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam, i'w ddiwreiddio hefyd, ac i'w ddileu oddi ar wyneb y ddaear.

1 Brenhinoedd 13