1 Brenhinoedd 10:19-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Chwech o risiau oedd i'r orseddfainc; a phen crwn oedd i'r orseddfainc o'r tu ôl iddi, a chanllawiau o bob tu i'r eisteddle, a dau lew yn sefyll yn ymyl y canllawiau.

20. A deuddeg o lewod oedd yn sefyll yno ar y chwe gris o'r ddeutu. Ni wnaethpwyd y fath yn un deyrnas.

21. A holl lestri yfed y brenin Solomon oedd o aur; a holl lestri tŷ coedwig Libanus oedd aur pur: nid oedd arian ynddynt. Ni roddid dim bri arno yn nyddiau Solomon.

22. Oherwydd llongau Tarsis oedd gan y brenin ar y môr, gyda llongau Hiram. Unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis, yn dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod.

23. A'r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear, mewn cyfoeth a doethineb.

24. A'r holl fyd oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i glywed ei ddoethineb ef, a roddasai Duw yn ei galon ef.

25. A hwy a ddygasant bob un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, ac arfau, a pheraroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn.

26. A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion: ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o farchogion; y rhai a osododd efe yn ninasoedd y cerbydau, a chyda'r brenin yn Jerwsalem.

27. A'r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a'r cedrwydd a wnaeth efe fel sycamorwydd yn y doldir, o amldra.

28. A meirch a ddygid i Solomon o'r Aifft, ac edafedd llin: marchnadyddion y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris.

29. A cherbyd a ddeuai i fyny ac a âi allan o'r Aifft am chwe chan sicl o arian, a march am gant a deg a deugain: ac fel hyn i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria, y dygent hwy feirch trwy eu llaw hwynt.

1 Brenhinoedd 10