13. A'r brenin Solomon a roddes i frenhines Seba ei holl ddymuniad, yr hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a roddodd Solomon iddi hi o'i frenhinol haelioni. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i'w gwlad, hi a'i gweision.
14. A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur;
15. Heblaw yr hyn a gâi efe gan y marchnadwyr, ac o farsiandïaeth y llysieuwyr, a chan holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad.
16. A'r brenin Solomon a wnaeth ddau gant o darianau aur dilin; chwe chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob tarian:
17. A thri chant o fwcledi o aur dilin; tair punt o aur a roddes efe ym mhob bwcled. A'r brenin a'u rhoddes hwynt yn nhŷ coedwig Libanus.
18. A'r brenin a wnaeth orseddfainc fawr o ifori, ac a'i gwisgodd hi ag aur o'r gorau.
19. Chwech o risiau oedd i'r orseddfainc; a phen crwn oedd i'r orseddfainc o'r tu ôl iddi, a chanllawiau o bob tu i'r eisteddle, a dau lew yn sefyll yn ymyl y canllawiau.