1 Brenhinoedd 10:10-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A hi a roddes i'r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr. Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach, cyn amled â'r rhai a roddodd brenhines Seba i'r brenin Solomon.

11. A llongau Hiram hefyd, y rhai a gludent aur o Offir, a ddygasant o Offir lawer iawn o goed almugim, ac o feini gwerthfawr.

12. A'r brenin a wnaeth o'r coed almugim anelau i dŷ yr Arglwydd, ac i dŷ y brenin, a thelynau a saltringau i gantorion. Ni ddaeth y fath goed almugim, ac ni welwyd hyd y dydd hwn.

13. A'r brenin Solomon a roddes i frenhines Seba ei holl ddymuniad, yr hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a roddodd Solomon iddi hi o'i frenhinol haelioni. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i'w gwlad, hi a'i gweision.

14. A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur;

15. Heblaw yr hyn a gâi efe gan y marchnadwyr, ac o farsiandïaeth y llysieuwyr, a chan holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad.

16. A'r brenin Solomon a wnaeth ddau gant o darianau aur dilin; chwe chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob tarian:

17. A thri chant o fwcledi o aur dilin; tair punt o aur a roddes efe ym mhob bwcled. A'r brenin a'u rhoddes hwynt yn nhŷ coedwig Libanus.

18. A'r brenin a wnaeth orseddfainc fawr o ifori, ac a'i gwisgodd hi ag aur o'r gorau.

19. Chwech o risiau oedd i'r orseddfainc; a phen crwn oedd i'r orseddfainc o'r tu ôl iddi, a chanllawiau o bob tu i'r eisteddle, a dau lew yn sefyll yn ymyl y canllawiau.

20. A deuddeg o lewod oedd yn sefyll yno ar y chwe gris o'r ddeutu. Ni wnaethpwyd y fath yn un deyrnas.

1 Brenhinoedd 10