1 Brenhinoedd 10:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A phan glybu brenhines Seba glod Solomon am enw yr Arglwydd, hi a ddaeth i'w brofi ef â chwestiynau caled.

2. A hi a ddaeth i Jerwsalem â llu mawr iawn, â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer iawn, a meini gwerthfawr. A hi a ddaeth at Solomon, ac a lefarodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon.

3. A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: nid oedd dim yn guddiedig rhag y brenin, a'r na fynegodd efe iddi hi.

4. A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladasai efe,

5. A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a'u dillad hwynt, a'i drulliadau ef, a'i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd; nid oedd mwyach ysbryd ynddi.

6. A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di, ac am dy ddoethineb.

1 Brenhinoedd 10