1 Brenhinoedd 1:42-51 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

42. Ac efe eto yn llefaru, wele, daeth Jonathan mab Abiathar yr offeiriad. A dywedodd Adoneia, Tyred i mewn: canys gŵr grymus ydwyt ti, a daioni a fynegi di.

43. A Jonathan a atebodd ac a ddywedodd wrth Adoneia, Yn ddiau ein harglwydd frenin Dafydd a osododd Solomon yn frenin.

44. A'r brenin a anfonodd gydag ef Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a'r Cerethiaid, a'r Pelethiaid; a hwy a barasant iddo ef farchogaeth ar fules y brenin.

45. A Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a'i heneiniasant ef yn frenin yn Gihon: a hwy a ddaethant i fyny oddi yno yn llawen; a'r ddinas a derfysgodd. Dyna'r twrf a glywsoch chwi.

46. Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth.

47. A gweision y brenin a ddaethant hefyd i fendithio ein harglwydd frenin Dafydd, gan ddywedyd, Dy Dduw a wnelo enw Solomon yn well na'th enw di, ac a wnelo yn fwy ei orseddfainc ef na'th orseddfainc di. A'r brenin a ymgrymodd ar y gwely.

48. Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin: Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a roddodd heddiw un i eistedd ar fy ngorseddfainc, a'm llygaid innau yn gweled hynny.

49. A'r holl wahoddedigion, y rhai oedd gydag Adoneia, a ddychrynasant, ac a gyfodasant, ac a aethant bob un ei ffordd.

50. Ac Adoneia oedd yn ofni rhag Solomon; ac a gyfododd, ac a aeth ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor.

51. A mynegwyd i Solomon, gan ddywedyd, Wele, y mae Adoneia yn ofni'r brenin Solomon: canys wele, efe a ymaflodd yng nghyrn yr allor, gan ddywedyd, Tynged y brenin Solomon i mi heddiw, na ladd efe ei was â'r cleddyf.

1 Brenhinoedd 1