38. Felly Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a'r Cerethiaid, a'r Pelethiaid, a aethant i waered, ac a wnaethant i Solomon farchogaeth ar fules y brenin Dafydd, ac a aethant ag ef i Gihon.
39. A Sadoc yr offeiriad a gymerodd gorn o olew allan o'r babell, ac a eneiniodd Solomon. A hwy a utganasant mewn utgorn: a'r holl bobl a ddywedasant, Bydded fyw y brenin Solomon.
40. A'r holl bobl a aethant i fyny ar ei ôl ef, yn canu pibellau, ac yn llawenychu â llawenydd mawr, fel y rhwygai y ddaear gan eu sŵn hwynt.
41. A chlybu Adoneia, a'i holl wahoddedigion y rhai oedd gydag ef, pan ddarfuasai iddynt fwyta. Joab hefyd a glywodd lais yr utgorn; ac a ddywedodd, Paham y mae twrf y ddinas yn derfysgol?
42. Ac efe eto yn llefaru, wele, daeth Jonathan mab Abiathar yr offeiriad. A dywedodd Adoneia, Tyred i mewn: canys gŵr grymus ydwyt ti, a daioni a fynegi di.
43. A Jonathan a atebodd ac a ddywedodd wrth Adoneia, Yn ddiau ein harglwydd frenin Dafydd a osododd Solomon yn frenin.
44. A'r brenin a anfonodd gydag ef Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a'r Cerethiaid, a'r Pelethiaid; a hwy a barasant iddo ef farchogaeth ar fules y brenin.
45. A Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a'i heneiniasant ef yn frenin yn Gihon: a hwy a ddaethant i fyny oddi yno yn llawen; a'r ddinas a derfysgodd. Dyna'r twrf a glywsoch chwi.
46. Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth.
47. A gweision y brenin a ddaethant hefyd i fendithio ein harglwydd frenin Dafydd, gan ddywedyd, Dy Dduw a wnelo enw Solomon yn well na'th enw di, ac a wnelo yn fwy ei orseddfainc ef na'th orseddfainc di. A'r brenin a ymgrymodd ar y gwely.
48. Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin: Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a roddodd heddiw un i eistedd ar fy ngorseddfainc, a'm llygaid innau yn gweled hynny.
49. A'r holl wahoddedigion, y rhai oedd gydag Adoneia, a ddychrynasant, ac a gyfodasant, ac a aethant bob un ei ffordd.
50. Ac Adoneia oedd yn ofni rhag Solomon; ac a gyfododd, ac a aeth ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor.
51. A mynegwyd i Solomon, gan ddywedyd, Wele, y mae Adoneia yn ofni'r brenin Solomon: canys wele, efe a ymaflodd yng nghyrn yr allor, gan ddywedyd, Tynged y brenin Solomon i mi heddiw, na ladd efe ei was â'r cleddyf.
52. A dywedodd Solomon, Os bydd efe yn ŵr da, ni syrth un o'i wallt ef i lawr; ond os ceir drygioni ynddo ef, efe a fydd marw.
53. A'r brenin Solomon a anfonodd, a hwy a'i dygasant ef oddi wrth yr allor. Ac efe a ddaeth, ac a ymgrymodd i'r brenin Solomon. A dywedodd Solomon wrtho, Dos i'th dŷ.