1 Brenhinoedd 1:3-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A hwy a geisiasant lances deg trwy holl fro Israel; ac a gawsant Abisag y Sunamees, ac a'i dygasant hi at y brenin.

4. A'r llances oedd deg iawn, ac oedd yn ymgeleddu'r brenin, ac yn ei wasanaethu ef: ond ni bu i'r brenin a wnaeth â hi.

5. Ac Adoneia mab Haggith a ymddyrchafodd, gan ddywedyd, Myfi a fyddaf frenin: ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwŷr meirch, a dengwr a deugain i redeg o'i flaen.

6. A'i dad nid anfodlonasai ef yn ei ddyddiau, gan ddywedyd, Paham y gwnaethost fel hyn? yntau hefyd oedd deg iawn o bryd; ac efe a anesid wedi Absalom.

7. Ac o'i gyfrinach y gwnaeth efe Joab mab Serfia, ac Abiathar yr offeiriad: a hwy a gynorthwyasant ar ôl Adoneia.

8. Ond Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a Nathan y proffwyd, a Simei, a Rei, a'r gwŷr cedyrn a fuasai gyda Dafydd, nid oeddynt gydag Adoneia.

9. Ac Adoneia a laddodd ddefaid, a gwartheg, a phasgedigion, wrth faen Soheleth, yr hwn sydd wrth En‐rogel, ac a wahoddodd ei holl frodyr meibion y brenin, a holl wŷr Jwda gweision y brenin.

10. Ond Nathan y proffwyd, a Benaia, a'r gwŷr cedyrn, a Solomon ei frawd, ni wahoddodd efe.

11. Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Solomon, gan ddywedyd, Oni chlywaist ti fod Adoneia mab Haggith yn teyrnasu, a'n harglwydd Dafydd heb wybod hynny?

12. Tyred gan hynny yn awr, atolwg, rhoddaf i ti gyngor, fel yr achubych dy einioes dy hun, ac einioes Solomon dy fab.

13. Dos, a cherdda i mewn at y brenin Dafydd, a dywed wrtho, Oni thyngaist ti, fy arglwydd frenin, wrth dy wasanaethwraig, gan ddywedyd, Solomon dy fab di a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i? paham gan hynny y mae Adoneia yn teyrnasu?

14. Wele, tra fyddych yno eto yn llefaru wrth y brenin, minnau a ddeuaf i mewn ar dy ôl di, ac a sicrhaf dy eiriau di.

1 Brenhinoedd 1