1. A'r brenin Dafydd oedd hen, ac a aethai mewn oedran; er iddynt ei anhuddo ef mewn dillad, eto ni chynhesai efe.
2. Am hynny ei weision a ddywedasant wrtho, Ceisier i'm harglwydd frenin lances o forwyn; a safed hi o flaen y brenin, a bydded yn gwneuthur ymgeledd iddo, a gorwedded yn dy fynwes, fel y gwresogo fy arglwydd frenin.
3. A hwy a geisiasant lances deg trwy holl fro Israel; ac a gawsant Abisag y Sunamees, ac a'i dygasant hi at y brenin.
4. A'r llances oedd deg iawn, ac oedd yn ymgeleddu'r brenin, ac yn ei wasanaethu ef: ond ni bu i'r brenin a wnaeth â hi.
5. Ac Adoneia mab Haggith a ymddyrchafodd, gan ddywedyd, Myfi a fyddaf frenin: ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwŷr meirch, a dengwr a deugain i redeg o'i flaen.