1 Brenhinoedd 1:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r brenin Dafydd oedd hen, ac a aethai mewn oedran; er iddynt ei anhuddo ef mewn dillad, eto ni chynhesai efe.

2. Am hynny ei weision a ddywedasant wrtho, Ceisier i'm harglwydd frenin lances o forwyn; a safed hi o flaen y brenin, a bydded yn gwneuthur ymgeledd iddo, a gorwedded yn dy fynwes, fel y gwresogo fy arglwydd frenin.

3. A hwy a geisiasant lances deg trwy holl fro Israel; ac a gawsant Abisag y Sunamees, ac a'i dygasant hi at y brenin.

1 Brenhinoedd 1