Y Salmau 95:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Dewch, addolwn ac ymgrymwn,plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth.

7. Oherwydd ef yw ein Duw,a ninnau'n bobl iddo a defaid ei borfa;heddiw cewch wybod ei rym,os gwrandewch ar ei lais.

8. Peidiwch â chaledu'ch calonnau, fel yn Meriba,fel ar ddiwrnod Massa yn yr anialwch,

9. pan fu i'ch hynafiaid fy herioa'm profi, er iddynt weld fy ngwaith.

10. Am ddeugain mlynedd y ffieiddiais y genhedlaeth honno,a dweud, “Pobl â'u calonnau'n cyfeiliorni ydynt,ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.”

Y Salmau 95