Y Salmau 95:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Oherwydd Duw mawr yw'r ARGLWYDD,a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.

4. Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear,ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd.

5. Eiddo ef yw'r môr, ac ef a'i gwnaeth;ei ddwylo ef a greodd y sychdir.

6. Dewch, addolwn ac ymgrymwn,plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth.

Y Salmau 95