Y Salmau 95:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dewch, canwn yn llawen i'r ARGLWYDD,rhown floedd o orfoledd i graig ein hiachawdwriaeth.

2. Down i'w bresenoldeb â diolch,gorfoleddwn ynddo â chaneuon mawl.

3. Oherwydd Duw mawr yw'r ARGLWYDD,a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.

4. Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear,ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd.

5. Eiddo ef yw'r môr, ac ef a'i gwnaeth;ei ddwylo ef a greodd y sychdir.

Y Salmau 95