Y Salmau 92:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. er i'r annuwiol dyfu fel glaswelltac i'r holl wneuthurwyr drygioni lwyddo,eu bod i'w dinistrio am byth,

8. ond dy fod ti, ARGLWYDD, yn dragwyddol ddyrchafedig.

9. Oherwydd wele, dy elynion, ARGLWYDD,wele, dy elynion a ddifethir,a'r holl wneuthurwyr drygioni a wasgerir.

10. Codaist i fyny fy nghorn fel corn ych,ac eneiniaist fi ag olew croyw.

11. Ymhyfrydodd fy llygaid yng nghwymp fy ngelynion,a'm clustiau wrth glywed am y rhai drygionus a gododd yn f'erbyn.

12. Y mae'r cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd,ac yn tyfu fel cedrwydd Lebanon.

13. Y maent wedi eu plannu yn nhŷ'r ARGLWYDD,ac yn blodeuo yng nghynteddau ein Duw.

Y Salmau 92