Y Salmau 91:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr,ac oddi wrth bla difaol;

4. bydd yn cysgodi drosot â'i esgyll,a chei nodded dan ei adenydd;bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.

5. Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos,na rhag saeth yn hedfan yn y dydd,

6. rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch,na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd.

7. Er i fil syrthio wrth dy ochr,a deng mil ar dy ddeheulaw,eto ni chyffyrddir â thi.

8. Ni fyddi ond yn edrych â'th lygaidac yn gweld tâl y drygionus.

9. Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa;gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa;

10. ni ddigwydd niwed i ti,ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.

Y Salmau 91