Y Salmau 90:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Oherwydd yr ydym ni yn darfod gan dy ddig,ac wedi'n brawychu gan dy gynddaredd.

8. Gosodaist ein camweddau o'th flaen,ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb.

9. Y mae ein holl ddyddiau'n mynd heibio dan dy ddig,a'n blynyddoedd yn darfod fel ochenaid.

10. Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes,neu efallai bedwar ugain trwy gryfder,ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder;ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith.

11. Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter,a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni?

Y Salmau 90