Y Salmau 89:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Oherwydd pwy yn y nefoedd a gymherir â'r ARGLWYDD?Pwy ymysg y duwiau sy'n debyg i'r ARGLWYDD,

7. yn Dduw a ofnir yng nghyngor y rhai sanctaidd,yn fawr ac ofnadwy goruwch pawb o'i amgylch?

8. O ARGLWYDD Dduw y lluoedd,pwy sydd nerthol fel tydi, O ARGLWYDD,gyda'th ffyddlondeb o'th amgylch?

9. Ti sy'n llywodraethu ymchwydd y môr;pan gyfyd ei donnau, yr wyt ti'n eu gostegu.

10. Ti a ddrylliodd Rahab yn gelain;gwasgeraist dy elynion â nerth dy fraich.

Y Salmau 89