Y Salmau 89:44-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

44. Drylliaist ei deyrnwialen o'i law,a bwrw ei orsedd i'r llawr.

45. Yr wyt wedi byrhau dyddiau ei ieuenctid,ac wedi ei orchuddio â chywilydd.Sela

46. Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ymguddio am byth,a'th eiddigedd yn llosgi fel tân?

47. Cofia mor feidrol ydwyf fi;ai yn ofer y creaist yr holl bobloedd?

48. Pwy fydd byw heb weld marwolaeth?Pwy a arbed ei fywyd o afael Sheol?Sela

49. O Arglwydd, ple mae dy gariad gynt,a dyngaist yn dy ffyddlondeb i Ddafydd?

50. Cofia, O Arglwydd, ddirmyg dy was,fel yr wyf yn cario yn fy mynwes sarhad y bobloedd,

51. fel y bu i'th elynion, ARGLWYDD, ddirmygua gwawdio camre dy eneiniog.

52. Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am byth!Amen ac Amen.

Y Salmau 89