Y Salmau 89:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. ond ni throf fy nghariad oddi wrtho,na phallu yn fy ffyddlondeb.

34. Ni thorraf fy nghyfamod,na newid gair a aeth o'm genau.

35. Unwaith am byth y tyngais i'm sancteiddrwydd,ac ni fyddaf yn twyllo Dafydd.

36. Fe barha ei linach am byth,a'i orsedd cyhyd â'r haul o'm blaen.

37. Bydd wedi ei sefydlu am byth fel y lleuad,yn dyst ffyddlon yn y nef.”Sela

Y Salmau 89