Y Salmau 89:16-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. sy'n gorfoleddu bob amser yn dy enw,ac yn llawenhau yn dy gyfiawnder.

17. Oherwydd ti yw gogoniant eu nerth,a thrwy dy ffafr di y dyrchefir ein corn.

18. Oherwydd y mae ein tarian yn eiddo i'r ARGLWYDD,a'n brenin i Sanct Israel.

19. Gynt lleferaist mewn gweledigaethwrth dy ffyddloniaid a dweud,“Gosodais goron ar un grymus,a dyrchafu un a ddewiswyd o blith y bobl.

20. Cefais Ddafydd, fy ngwas,a'i eneinio â'm holew sanctaidd;

21. bydd fy llaw yn gadarn gydag ef,a'm braich yn ei gryfhau.

22. Ni fydd gelyn yn drech nag ef,na'r drygionus yn ei ddarostwng.

23. Drylliaf ei elynion o'i flaen,a thrawaf y rhai sy'n ei gasáu.

Y Salmau 89