Y Salmau 88:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Gwnaethost i'm cydnabod bellhau oddi wrthyf,a'm gwneud yn ffiaidd iddynt.Yr wyf wedi fy nghaethiwo ac ni allaf ddianc;

9. y mae fy llygaid yn pylu gan gystudd.Galwaf arnat ti bob dydd, O ARGLWYDD,ac y mae fy nwylo'n ymestyn atat.

10. A wnei di ryfeddodau i'r meirw?A yw'r cysgodion yn codi i'th foliannu?Sela

11. A fynegir dy gariad yn y bedd,a'th wirionedd yn nhir Abadon?

Y Salmau 88