Y Salmau 87:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Dywedir pethau gogoneddus amdanat ti,O ddinas Duw.Sela

4. “Yr wyf yn enwi Rahab a Babilonymysg y rhai sy'n fy nghydnabod;am Philistia, Tyrus ac Ethiopiafe ddywedir, ‘Ganwyd hwy yno’.”

5. Ac fe ddywedir am Seion,“Ganwyd hwn-a-hwn ynddi;y Goruchaf ei hun sy'n ei sefydlu hi.”

6. Bydd yr ARGLWYDD, wrth restru'r bobl, yn ysgrifennu,“Ganwyd hwy yno.”Sela

7. Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud,“Y mae fy holl darddiadau ynot ti.”

Y Salmau 87