Y Salmau 85:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Bydded imi glywed yr hyn a lefara'r Arglwydd DDUW,oherwydd bydd yn cyhoeddi heddwchi'w bobl ac i'w ffyddloniaid,rhag iddynt droi drachefn at ffolineb.

9. Yn wir, y mae ei waredigaeth yn agos at y rhai sy'n ei ofni,fel bod gogoniant yn aros yn ein tir.

10. Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod,a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd.

11. Bydd ffyddlondeb yn tarddu o'r ddaear,a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.

12. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi daioni,a'n tir yn rhoi ei gnwd.

13. Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen,a heddwch yn dilyn yn ôl ei droed.

Y Salmau 85