Y Salmau 85:2-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Maddeuaist gamwedd dy bobl,a dileu eu holl bechod.Sela

3. Tynnaist dy holl ddigofaint yn ôl,a throi oddi wrth dy lid mawr.

4. Adfer ni eto, O Dduw ein hiachawdwriaeth,a rho heibio dy ddicter tuag atom.

5. A fyddi'n digio wrthym am byth,ac yn dal dig atom am genedlaethau?

6. Oni fyddi'n ein hadfywio eto,er mwyn i'th bobl lawenhau ynot?

7. Dangos i ni dy ffyddlondeb, O ARGLWYDD,a rho dy waredigaeth inni.

8. Bydded imi glywed yr hyn a lefara'r Arglwydd DDUW,oherwydd bydd yn cyhoeddi heddwchi'w bobl ac i'w ffyddloniaid,rhag iddynt droi drachefn at ffolineb.

9. Yn wir, y mae ei waredigaeth yn agos at y rhai sy'n ei ofni,fel bod gogoniant yn aros yn ein tir.

Y Salmau 85