Y Salmau 84:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Mor brydferth yw dy breswylfod,O ARGLWYDD y Lluoedd.

2. Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at lewygam gynteddau'r ARGLWYDD;y mae'r cyfan ohonof yn gweiddi'n llawenar y Duw byw.

3. Cafodd hyd yn oed aderyn y to gartref,a'r wennol nyth iddi ei hun,lle mae'n magu ei chywion, wrth dy allorau di,O ARGLWYDD y Lluoedd, fy Mrenin a'm Duw.

4. Gwyn eu byd y rhai sy'n trigo yn dy dŷ,yn canu mawl i ti'n wastadol.

5. Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti'n noddfa iddynt,a ffordd y pererinion yn eu calon.

6. Wrth iddynt fynd trwy ddyffryn Bacafe'i cânt yn ffynnon;bydd y glaw cynnar yn ei orchuddio â bendith.

Y Salmau 84