Y Salmau 80:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Daethost â gwinwydden o'r Aifft;gyrraist allan genhedloedd er mwyn ei phlannu;

9. cliriaist y tir iddi;magodd hithau wreiddiau a llenwi'r tir.

10. Yr oedd ei chysgod yn gorchuddio'r mynyddoedd,a'i changau fel y cedrwydd cryfion;

11. estynnodd ei brigau at y môr,a'i blagur at yr afon.

12. Pam felly y bylchaist ei chloddiau,fel bod y rhai sy'n mynd heibio yn tynnu ei ffrwyth?

13. Y mae baedd y goedwig yn ei thyrchu,ac anifeiliaid gwyllt yn ei phori.

Y Salmau 80