Y Salmau 80:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Bydded i'r rhai sy'n ei llosgi â thân ac yn ei thorri i lawrgael eu difetha gan gerydd dy wynepryd.

17. Ond bydded dy law ar y sawl sydd ar dy ddeheulaw,ar yr un yr wyt ti'n ei gyfnerthu.

18. Ni thrown oddi wrthyt mwyach;adfywia ni, ac fe alwn ar dy enw.

19. ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, adfer ni;bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.

Y Salmau 80