Y Salmau 80:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Y mae baedd y goedwig yn ei thyrchu,ac anifeiliaid gwyllt yn ei phori.

14. O Dduw'r Lluoedd, tro eto,edrych i lawr o'r nefoedd a gwêl,gofala am y winwydden hon,

15. y planhigyn a blennaist â'th ddeheulaw,y gainc yr wyt yn ei chyfnerthu.

16. Bydded i'r rhai sy'n ei llosgi â thân ac yn ei thorri i lawrgael eu difetha gan gerydd dy wynepryd.

17. Ond bydded dy law ar y sawl sydd ar dy ddeheulaw,ar yr un yr wyt ti'n ei gyfnerthu.

18. Ni thrown oddi wrthyt mwyach;adfywia ni, ac fe alwn ar dy enw.

Y Salmau 80