Y Salmau 80:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. estynnodd ei brigau at y môr,a'i blagur at yr afon.

12. Pam felly y bylchaist ei chloddiau,fel bod y rhai sy'n mynd heibio yn tynnu ei ffrwyth?

13. Y mae baedd y goedwig yn ei thyrchu,ac anifeiliaid gwyllt yn ei phori.

14. O Dduw'r Lluoedd, tro eto,edrych i lawr o'r nefoedd a gwêl,gofala am y winwydden hon,

15. y planhigyn a blennaist â'th ddeheulaw,y gainc yr wyt yn ei chyfnerthu.

16. Bydded i'r rhai sy'n ei llosgi â thân ac yn ei thorri i lawrgael eu difetha gan gerydd dy wynepryd.

Y Salmau 80