Y Salmau 79:5-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ddig am byth?A yw dy eiddigedd i losgi fel tân?

6. Tywallt dy lid ar y cenhedloeddnad ydynt yn dy adnabod,ac ar y teyrnasoeddnad ydynt yn galw ar dy enw,

7. am iddynt ysu Jacoba difetha ei drigfan.

8. Paid â dal yn ein herbyn ni ddrygioni ein hynafiaid,ond doed dy dosturi atom ar frys,oherwydd fe'n darostyngwyd yn llwyr.

9. Cymorth ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth,oherwydd anrhydedd dy enw;gwared ni, a maddau ein pechodauer mwyn dy enw.

10. Pam y caiff y cenhedloedd ddweud,“Ple mae eu Duw?”Dysger y cenhedloedd yn ein gŵyddbeth yw dy ddialedd am waed tywalltedig dy weision.

11. Doed ochneidio'r carcharorion hyd atat,ac yn dy nerth mawr arbed y rhai oedd i farw.

12. Taro'n ôl seithwaith i'n cymdogion, a hynny i'r byw,y gwatwar a wnânt wrth dy ddifrïo, O Arglwydd.

13. Yna, byddwn ni, dy bobl a phraidd dy borfa,yn dy foliannu am byth,ac yn adrodd dy foliant dros y cenedlaethau.

Y Salmau 79