Y Salmau 78:64-69 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

64. syrthiodd eu hoffeiriaid trwy'r cleddyf,ac ni allai eu gweddwon alaru.

65. Yna, cododd yr Arglwydd, fel o gwsg,fel rhyfelwr yn cael ei symbylu gan win.

66. Trawodd ei elynion yn eu holau,a dwyn arnynt warth tragwyddol.

67. Gwrthododd babell Joseff,ac ni ddewisodd lwyth Effraim;

68. ond dewisodd lwyth Jwda,a Mynydd Seion y mae'n ei garu.

69. Cododd ei gysegr cyn uched â'r nefoedd,a'i sylfeini, fel y ddaear, am byth.

Y Salmau 78