Y Salmau 78:52-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

52. Yna dygodd allan ei bobl fel defaid,a'u harwain fel praidd trwy'r anialwch;

53. arweiniodd hwy'n ddiogel heb fod arnynt ofn,ond gorchuddiodd y môr eu gelynion.

54. Dygodd hwy i'w dir sanctaidd,i'r mynydd a goncrodd â'i ddeheulaw.

55. Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau;rhannodd eu tir yn etifeddiaeth,a gwneud i lwythau Israel fyw yn eu pebyll.

56. Eto, profasant y Duw Goruchaf a gwrthryfela yn ei erbyn,ac nid oeddent yn cadw ei ofynion.

57. Troesant a mynd yn fradwrus fel eu hynafiaid;yr oeddent mor dwyllodrus â bwa llac.

58. Digiasant ef â'u huchelfeydd,a'i wneud yn eiddigeddus â'u heilunod.

Y Salmau 78