Y Salmau 78:42-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. Nid oeddent yn cofio ei rymy dydd y gwaredodd hwy rhag y gelyn,

43. pan roes ei arwyddion yn yr Aiffta'i ryfeddodau ym meysydd Soan.

44. Fe drodd eu hafonydd yn waed,ac ni allent yfed o'u ffrydiau.

45. Anfonodd bryfetach arnynt a'r rheini'n eu hysu,a llyffaint a oedd yn eu difa.

46. Rhoes eu cnwd i'r lindys,a ffrwyth eu llafur i'r locust.

47. Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,a'u sycamorwydd â glawogydd.

48. Rhoes eu gwartheg i'r haint,a'u diadell i'r plâu.

49. Anfonodd ei lid mawr arnynt,a hefyd ddicter, cynddaredd a gofid—cwmni o negeswyr gwae—

50. a rhoes ryddid i'w lidiowgrwydd.Nid arbedodd hwy rhag marwolaethond rhoi eu bywyd i'r haint.

Y Salmau 78