Y Salmau 78:39-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. Cofiodd mai cnawd oeddent,gwynt sy'n mynd heibio heb ddychwelyd.

40. Mor aml y bu iddynt wrthryfela yn ei erbyn yn yr anialwch,a pheri gofid iddo yn y diffeithwch!

41. Dro ar ôl tro rhoesant brawf ar Dduw,a blino Sanct Israel.

42. Nid oeddent yn cofio ei rymy dydd y gwaredodd hwy rhag y gelyn,

43. pan roes ei arwyddion yn yr Aiffta'i ryfeddodau ym meysydd Soan.

44. Fe drodd eu hafonydd yn waed,ac ni allent yfed o'u ffrydiau.

Y Salmau 78